Efallai nad ydych chi eisiau i bobl eraill wybod eich bod chi wedi bod yn chwilio am wybodaeth neu gymorth o wefannau fel The Support Hub for Victims and Survivors of Terrorism.
Pan fyddwch chi’n pori’r rhyngrwyd ar ffôn symudol, tabled neu gyfrifiadur, rydych chi’n gadael llwybr ‘hanes’ o dudalennau a safleoedd rydych chi wedi ymweld â nhw.
Mae’n amhosibl osgoi cael eich olrhain ar-lein yn llwyr ond os ydych chi’n poeni am rywun yn gwybod pa wefannau rydych chi wedi bod yn edrych arnyn nhw, mae yna rai pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu i guddio’ch olion.
Tra byddwch chi’n pori – botwm ‘Gadael y wefan’
Os nad ydych chi eisiau i rywun weld eich bod chi’n edrych ar wefan yr Hwb Cymorth, gallwch glicio’r botwm ‘Gadael y wefan’ ar frig y dudalen, a fydd yn mynd â chi i ffwrdd o’r wefan hon i hafan Google.
Os ydych chi’n defnyddio gliniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith, ceisiwch gadw dogfen neu wefan arall ar agor mewn tab neu ffenestr newydd wrth bori. Os daw rhywun i mewn i’r ystafell ac nad ydych chi eisiau iddyn nhw weld yr hyn rydych chi’n edrych arno, gallwch chi newid yn gyflym i ffenestr neu dab arall.
Dileu eich hanes pori
Gallwch ddileu hanes gwefannau rydych chi wedi ymweld â nhw, ond mae’n bwysig gwybod, os byddwch chi’n dileu eich hanes pori, y gallai rhywun arall sy’n defnyddio’r un ddyfais sylwi.
Os ydych chi’n rhannu tabled, ffôn symudol, gliniadur neu gyfrifiadur gyda rhywun, efallai y byddan nhw’n sylwi bod cyfrineiriau neu gyfeiriadau gwefannau wedi diflannu o’u hanes.
Dysgwch sut i ddileu eich hanes pori o’r porwyr a ddefnyddir amlaf:
- Chrome: dileu eich hanes pori
- Firefox: dileu hanes pori, chwilio a lawrlwytho ar Firefox
- Microsoft Edge: dileu hanes eich porwr
- Safari: dileu eich hanes pori
- Opera: dileu data preifat
Pori preifat (anhysbys)
Pan fyddwch chi’n pori’n ‘anhysbys’, ni fydd y porwr rhyngrwyd yn storio cwcis nac yn cofnodi eich hanes pori ar y cyfrifiadur, ffôn symudol na thabled.
Mae’r opsiwn hwn ar gael ar y porwyr gwe a ddefnyddir amlaf:
- Chrome: pori’n breifat gyda modd anhysbys
- Firefox: pori preifat – defnyddio Firefox heb gadw hanes
- Microsoft Edge: Pori’n Breifat
- Safari: defnyddio ffenestri pori preifat
- Opera: pori’n anhysbys – sut i agor ffenestr breifat
Bariau offer
Os ydych chi’n defnyddio bar offer chwilio yn eich porwr gwe, cofiwch y gellir cadw’r eitemau rydych chi wedi’u chwilio fel rhan o’ch hanes. Darganfyddwch sut i ddileu’r eitemau rydych chi wedi’u chwilio o’r peiriannau chwilio canlynol: